4 Mawrth 2022
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom
Annwyl Dawn,
Cafodd y llythyr a ysgrifennwyd gennych ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â’r adolygiad o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom, ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes at y Pwyllgor hwn ar 18 Ionawr, i’w ystyried.
Trafododd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ystod ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2022. Nid oes gan y Pwyllgor unrhyw sylwadau ar gynnwys y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Fodd bynnag, roedd yr Aelodau'n dymuno cyfleu eu barn y dylai rheoleiddwyr ym maes darlledu fod yn atebol i sefydliadau seneddol yn hytrach na'r Llywodraeth, a hynny er mwyn sicrhau annibyniaeth y drefn reoleiddio.
Diolch am y cyfle i adolygu’r ddogfen hon.
Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Yn gywir,
Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol